|
|
|
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) fod copiau o
fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn wedi cael
eu cylchredeg yn unol â'r rhestr ddosbarthu.
|
|
|
|
|
2.2
|
Eitem 9.2 - Ysgol Uwchradd David Hughes
|
|
|
|
|
|
Dygwyd sylw at y cyfeiriad o dan y pennawd uchod i
benderfyniad y CYSAG i ail-fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun Lleol
cyfredol a gofynnwyd a fyddai yna gopiau o'r Maes Llafur yn cael eu
cynhyrchu o'r newydd yn sgîl y penderfyniad hwn, ac yng
ngoleuni'r ffaith fod yna brinder copiau erbyn hyn yn Adran Addysg
Prifysgol Cymru Bangor yn benodol.
|
|
|
|
|
|
Rhoddwyd ystyriaeth i'r ffaith fod yna ddiffyg copiau o'r
Maes Llafur Cytun ac yn dilyn trafodaeth fanwl ynglyn â'r
ffordd orau a mwyaf cost-effeithiol o oresgyn hyn, roedd consensws
y dylid ymdrechu i gynhyrchu copi electronig yn ddarostyngedig ar
adnabod y sawl a gynhyrchodd y fersiwn bapur gwreiddiol.Cytunodd
Ymgynghorydd y Dyniaethau i wneud ymholiadau ynglyn â'r
mater.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd y dylid cynhyrchu copi electronig o'r
Maes Llafur Cytun Lleol cyfredol i ymateb i'r gofyn parhaus amdano
gan nodi y bydd Ymgynghorydd y Dyniaethau yn ymdrin â'r
mater.
|
|
|
|
|
3
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
|
Cafwyd adborth ar lafar o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau
Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar 19 Hydref, 2005.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) fod Is-Gadeirydd y
CYSAG ynghyd ag Ymgynghorydd y Dyniaethau wedi bod yn bresennol yn
y cyfarfod uchod a bod yr Is-Gadeirydd wedi nodi'r prif faterion
trafod fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ar thema - Ni ddylai'r
greadigaeth wthio'r creadwr i'r cefndir (creation should never upstage the
creator);
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd cyflwyniad diddorol gan Mr Chris Owen, Pennaeth
Ysgol Bassaleg ar Addysg Grefyddol
statudol Blwyddyn 12 a 13;
|
|
|
Ÿ
|
nodwyd bod y trefniadau ar gyfer Cynhadledd Arbennig
Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC yn Llandrindod wedi'u
cadarnhau;
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd cyflwyniad caboledig gan Gavin Craigen ar destun y
dimensiwn byd-eang o fewn Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r wybodaeth a diolch i'r
Is-Gadeirydd am yr adborth.
|
|
|
|
|
4
|
ADRODDIAD CYNNYDD : HYDREF - RHAGFYR, 2005
|
|
|
|
|
|
Bu i'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol adrodd ar ei
waith yn ystod ei dymor cyntaf yn y swydd dros gyfnod yr Hydref,
2005.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol wybod i'r
CYSAG ei fod wedi mwynhau'r misoedd cyntaf yn ei swydd ac roedd yn
gwerthfawrogi ansawdd y gefnogaeth a ddarperir gan y tîm
ymgynghorol yn ogystal â'r safonau uchel yn ysgolion
Môn oedd yn eu tro yn tystio at ragoriaeth y gefnogaeth
honno.
|
|
|
|
|
|
Crynhodd brif weithgareddau'r tymor fel a ganlyn
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
darparu Cwrs Consortiwm ar destun Technoleg Gwybodaeth ac
Addysg Grefyddol gan gynnwys dulliau dysgu digidol a pharatoi
adnoddau digidol i'w rhannu gydag adrannau. Rhoddir pob anogaeth i
athrawon greu eu deunyddiau gwreiddiol ei hunain er mwyn osgoi
problemau yng nghyswllt gofynion hawlfraint;
|
|
|
Ÿ
|
nôd ac amcanion Hyfforddiant mewn Swydd yn
Ynys Môn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
codi ymwybyddiaeth o'r modd gall y defnydd o Dechnoleg
Gwybodaeth gyfoethogi addysg a dysgu er enghraifft y byrddau gwyn
rhyngweithiol;
|
|
|
Ÿ
|
datblygu sgiliau athrawon gan roddi pwyslais arbennig ar
drin data a chyplysu Technoleg Gwybodaeth gyda'r defnydd o drin
data a rhifedd;
|
|
|
Ÿ
|
adolygu'r defnydd o feddalwedd Addysg
Grefyddol;
|
|
|
Ÿ
|
trafod dulliau dysgu a gweithgareddau trwy ddefnyddio
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;
|
|
|
|
|
|
Dangoswyd clip fideo o seremoni priodas a grewyd
i'w ddefnyddio fel adnodd dysgu gwreiddiol ym maes Addysg
Grefyddol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
darparu cefnogaeth arolygiad i ysgolion;
|
|
|
Ÿ
|
pennu blaenoriaethau ar gyfer 2006 fydd yn cwmpasu codi
safonau CA4 fel rhan o raglen HMS; hunan-arfarnu; asesu ar gyfer
dysgu, ynghyd ag asesu CA3.Ystyriaeth bellach fydd i ba raddau fydd
y gwaith gyda CA3 yn cyd-glymu gyda chodi safonau yn
CA4.
|
|
|
|
|
|
Diolchwyd i'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol am
gyflwyniad cytbwys a mynegwyd gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a
roddir i ysgolion y sir gan y tîm o ymgynghorwyr ac athrawon
ymgynghorol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd diolch i'r Athro Ymgynghorol Addysg
Grefyddol am y cyflwyniad ynglyn â gweithgareddau'r Hydref,
2005 a nodi'r wybodaeth.
|
|
|
|
|
5
|
PROSIECT TECHNOLEG GWYBODAETH A CHYFATHREBU AC ADDYSG
GREFYDDOL (UWCHRADD)
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Miss Mefys Jones gyflwyniad ynglyn â'r
uchod.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd Miss Mefys Jones at brif elfennau'r prosiect
fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bu'n ymhel â'r prosiect fel aelod o dîm oedd
yn ymwneud â byrddau gwyn rhyngweithiol;
|
|
|
Ÿ
|
dewisiwyd fel maes ffocws uned o waith TGAU yn
gysylltiedig â Christnogaeth gan ganolbwyntio ar addoliad
Cristnogol, ac fe ddefnyddiwyd y rhaglen fel adnodd ategol i
ddulliau addysgu traddodiadol ac i gyfoethogi'r profiad
dysgu;
|
|
|
Ÿ
|
dechreuir trwy gynnal sesiwn drafod gyda'r disgylion i
ganfod beth yw eu dealltwriaeth o addoliad - yna eir ymlaen i
gynnal amryw o dasgau aml-synhwyrol megis chwarae cerddoriaeth
draddodiadol emyn a cherddoriaeth o'r siartiau gyda naws grefyddol
iddi, a gofyn i'r disgyblion ddisgrifio eu teimladau mewn ymateb
i'r profiad, ac yna eistedd mewn tawelwch;
|
|
|
Ÿ
|
fel rhan o'r uned ar addoliad cristnogol, edrychir yn
fanwl ar yr amryw ffyrdd o addoli a gofynnir i'r disgyblion mynegi
eu barn trwy gyfrwng y Bwrdd Gwyn rhyngweithiol - rhoddir pwyslais
cynyddol ar allu disgyblion i fynegi barn ac i gyfleu safbwyntiau
yn glir ac yn ddeallus.Cyflwynir clipiau sain o ffurfiau o addoli
gan gwahanol enwadau crefyddol ac fe ellir cyflwyno clipiau fideo
hefyd yn enwedig os ydynt yn wreiddiol ac nad oes cwestiwn ynglyn
â hawlfraint yn codi yn eu cylch;
|
|
|
Ÿ
|
gofynnir i'r disgyblion feddwl am y gwahanol fathau o
weddi - diolchgarwch, eiriolaeth, moliant a chyffesu - trafodir
rhain a'r diffiniad ohonynt gan gyflwyno enghreifftiau o'r gweddiau
ar waith yn y byd cyfoes.Cyflwynir lluniau o unigolion yn gweddio
gan ddangos testun y weddi a gofyn wedyn i'r disgyblion geisio
adnabod y weddi sydd ar waith ac i ddefnyddio'r termau cywir er
mwyn dangos eu bod yn deall yr hyn a gyflwynir;
|
|
|
Ÿ
|
caiff y disgyblion gyfle hefyd i drafod pwrpas darllen y
Beibl, pwrpas pregeth a phwrpas emynau yn y weithred o addoli.Elfen
newydd yn y maes llafur yw'r cysyniad o Gyffes Ffydd a gofynnir
nifer o gwestiynau ynghylch hyn;
|
|
|
Ÿ
|
ar ddiwedd yr uned cynhwysir crynodeb o gwestiynau
arholiad blynyddoedd cynt sydd yn ddefnyddiol iawn;
|
|
|
Ÿ
|
pwysleisir na ddefnyddir y dull rhyngweithiol hwn ar gyfer
pob uned o waith - rhaid cael amrywiaeth mewn dulliau dysgu er mwyn
sicrhau cyfranogiad a diddordeb disgyblion yn y wers.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd aelodau'r CYSAG i Miss Mefys Jones am gyflwyniad
diddorol a dadlennol a mynegwyd gobaith byddai defnyddio
dulliau addysgu newydd o'r fath yn ysbarduno diddordeb o'r newydd
yn y pwnc.Yn dilyn hyn gofynnwyd am i ystadegau manwl gael eu cadw
ynglyn â'r nifereodd sydd yn dilyn y pwnc yn bresennol a'r
niferoedd fydd yn dewis astudio'r pwnc i bwrpas eu cymharu gyda'r
niferoedd a ddilynodd y pwnc mewn blynyddoedd cynt er mwyn gweld a
yw'r dulliau newydd o'i addysgu yn cael effaith o ran gwneud y pwnc
yn fwy deniadol.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod y dulliau dysgu a
ddisgrifir fel rhan o'r prosiect uchod yn cyfoethogi'r broses o
addysgu. Bu cryn ymdrech ar hyd y blynyddoedd i godi proffil Addysg
Grefyddol o fewn y cwrwicwlwm ac mae'r ddelwedd gyfoes a ddaw i ran
y pwnc trwy ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i'w addysgu yn gam
positif i'w wneud yn atyniadol fel dewis i ragor o
ddisgyblion.
|
|
|
|
|
|
Cytunwyd bod y dulliau dysgu rhyngweithiol newydd yn
cyfoethogi profiadau dysgu ac yn cyfrannu tuag at godi safonau ond
nodwyd hefyd bod yna nifer o ystyriaethau perthynol eraill ynghlwm
wrth ddewis pwnc. Nodwyd yn ogystal fod ffigyrau ynglyn
â'r nifer sydd yn dewis dilyn Astudiaethau Crefyddol hyd at
lefel TGAU a thu hwnt yn cael eu cadw gan Cynnal ac yn cael eu
cyflwyno i'r CYSAG yn flynyddol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
5.1
|
Diolch i Miss Mefys Jones am ei chyflwyniad mewn
perthynas â Phrosiect TGCh ac Addysg Grefyddol, a nodi'r
wybodaeth;
|
|
|
5.2
|
Nodi dymuniad y CYSAG bod ystadegau yn cael eu cadw
ynglyn â'r nifereodd sydd yn dilyn Addysg Grefyddol yn
bresennol, a'r niferoedd fydd yn dewis astudio'r pwnc i bwrpas eu
cymharu gyda'r niferoedd a'i ddilynodd mewn blynyddoedd cynt er
mwyn canfod a yw cyflwyno dulliau addysgu rhyngweithiol newydd
ynghyd â ffactorau eraill yn gwneud gwahaniaeth i boblogrwydd
y pwnc gyda disgyblion.
|
|
|
|
|
6
|
HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau
ynglyn â Hyfforddiant mewn Swydd yn ystod 2005/06.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau at y prif bwyntiau
fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bod y rhaglen hyfforddi gogyfer athrawon yr Awdurdod yn
bwysig fel ffordd o sicrhau bod athrawon yn cael gwybodaeth am
ddatblygiadau newydd, rhannu arferion da a chydweithio i ddatblygu
strategaethau dysgu ac addysgu a deunyddiau pwrpasol;
|
|
|
Ÿ
|
anelir at sicrhau bod y rhaglen yn ymateb i anghenion
ysgolion ac athrawon trwy ymgynghori gyda phenaethiaid, athrawon a
thiwtoriaid proffesiynol yn yr ysgolion;
|
|
|
Ÿ
|
mae penaethiaid cynradd ac uwchradd y sir wedi cytuno i
gau yr ysgolion am ddau ddiwrnod er mwyn cynnal cyrsiau
hyfforddiant ysgol ganolig neu fel consortiwm;
|
|
|
Ÿ
|
ni ddewisiwyd Addysg Grefyddol fel prif faes ffocws y
cyrsiau clwstwr yn ystod y flwyddyn - bu i athrawon cynradd yn
hytrach ganolbwyntio ar y cyfnod sylfaen newydd;
|
|
|
Ÿ
|
cynhelir cwrs HADA ar ôl gwyliau hanner tymor mis
Chwefror, sef cwrs Dyniaethau 5 diwrnod sydd yn cynnwys diwrnod o
gwrs ar ddatblygu Iaith trwy Addysg Grefyddol;
|
|
|
Ÿ
|
yng nghyswllt y sector uwchradd, bu i 11 athro/awes o
Fôn fynychu cwrs TGCh mewn gwersi AG a chynhelir cwrs ar godi
safonau Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol CA4 ar 17
Chwefror;
|
|
|
Ÿ
|
ymhlith yr awgrymiadau gogyfer bwydlen rhaglen hyfforddi
2006/07 byddir yn eu cyflwyno gerbron y panelau sydd yn gwneud
penderfyniadau ynglyn ag HMS fydd yng nghyswllt y cynradd -
cynllunio sut mae gwyliau mawr Cristnogol yn cael eu cyflwyno i
ddosbarthiadau, siarad ac ysgrifennu am grefydd (targed cyrhaeddiad
3); ac yng nghyswllt yr uwchradd - asesu ar gyfer dysgu,
arweiniad ar y cylch dysgu, a gofynion cyffredin a medrau allweddol
fydd yn cael sylw mwy blaenllaw yng nghwricwlwm cendlaethol newydd
2007/08. At hynny, derbyniwyd copi o CD Rom a baratowyd gan yr
Eglwys yng Nghymru ar gyfer ei hysgolion ar destun yr Esgob William
Morgan;
|
|
|
Ÿ
|
llwyddwyd hefyd gyda chais am gyllid prosiect gogyfer
Addysg Grefyddol statudol ôl-16.
|
|
|
|
|
Diolchwyd i Ymgynghorydd y
Dyniaethau am ei hadroddiad a mynegwyd gwerthfawrogiad cyffredinol
o'r gwaith a'r sylw manwl a roddir i lunio rhaglen hyfforddiant
mewn swydd i athrawon y sir.Gwnaed sylw yn y cyswllt hwn fod
cyflwyno'r cyfnod sylfaen newydd yn gyfle i hyrwyddo'r cyswllt
rhwng y cyfnodau newydd hyn ac Addysg Grefyddol a dangos sut y
gellir datblygu'r gwahanol elfennau trwy Addysg Grefyddol a
manteisio ar y cyfle i hyrwyddo Addysg Grefyddol yn y cyfnod
cynnar.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â Hyfforddiant
mewn Swydd 2005/06, a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
|
|
|
|
7.1
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth ynglyn â chynnwys
adroddiadau yn dilyn arolygiad dan Adran 10 (ac Adran 23 lle bo'n
berthnasol) o Ddeddf Arolygu 1996 mewn Addysg Grefyddol a materion
perthynol mewn perthynas ag Ysgol Gymuned Carreglefn, Ysgol Gymuned
Bryngwran ac Ysgol Gymuned Rhosybol.
|
|
|
|
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau wybod i'r CYSAG fod y wybodaeth uchod yn adlewyrchu'r
drefn arolygu newydd o arolygu yn yr ystyr mai ond yn Ysgol Gymuned
Carreglefn y cafodd Addysg Grefyddol fel pwnc ei arolygu y tro
hwn.Dynodwyd Gradd 2 i'r pwnc yn CA1 gyda'r sylw fod yna nodweddion
da a dim diffygion pwysig, tra dynodwyd Gradd 1 i CA2 ac fe farnodd
yr Arolygwr fod safon y pwnc yn y Cyfnod hwn yn dda gyda rhai
nodweddion rhagorol.Yn achos Ysgol Gymuned Bryngwran ac Ysgol
Gymuned Rhosybol gwneir sylwadau i'r perwyl fod yna nodweddion
rhagorol yng nghyswllt cynnydd y disgyblion yn eu medrau personol,
cymdeithasol, ysbrydol a moesol, a bod addoliadau ar y cyd,
ymweliadau gwaith maes a phrofiadau dysgu eang eraill a ddarperir
i'r disgyblion yn hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol,
cymdeithasol a diwylliannol yn llwyddiannus.
|
|
|
|
Nododd yr Ymgynghorydd fod
yna le i ymfalchïo yng nghyraeddiadau'r dair ysgol
uchod.
|
|
|
|
7.2
Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau yn
benodol at y drefn arolygu newydd ac at ddymuniad y CYSAG i barhau
i fonitro safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir - gwnaed hyn
yn y gorffennol trwy gyfrwng adroddiadau arolygiad ond o dan y
drefn newydd o blith yr ysgolion hynny fydd yn destun arolygiad
mewn unrhyw flwyddyn ni fydd Addysg Grefyddol o reidrwydd ymhlith y
pynciau a gaiff eu harolygu.Yng ngoleuni hynny, lluniwyd pro forma
un dudalen ar gyfer y sector cynradd ac ar gyfer y sector uwchradd
gall ysgolion ei gyflwyno sydd yn adlewyrchu ymarfer hunan
arfarnu'r ysgol ei hun.Mae'r cylch hunan arfarnu uwchradd llawn yn
ymestyn dros 6 blynedd ac mae'n broses sy'n cynhyrchu cryn
ddogfennaeth - cytunwyd mai crynodeb fydd yn cael ei gyflwyno
gerbron y CYSAG fydd yn cyfeirio at Addysg Grefyddol,
Astudiaethau Crefyddol a datblygiad moesol ac ysbrydol y
disgyblion.Hefyd, cytunwyd byddai'n dderbyniol gan y CYSAG dderbyn
y wybodaeth yn ystod blwyddyn yr arolygiad yn hytrach nag yn ystod
tymor yr arolygiad.Hyderir y llwyddwyd trwy drefn o'r fath i gwrdd
â phwrpasau'r CYSAG heb osod baich ormodol ar
ysgolion.
|
|
|
|
Yn y drafodaeth ddilynol
codwyd pwynt ynglyn ag amseriad ac at y ffaith na fydd Addysg
Grefyddol o reidrwydd yn cael sylw o fewn cylch hunan arfarnu 6
mlynedd yr uwchradd yn yr un flwyddyn y cynhelir arolygiad allanol,
a bod angen nodi hyn.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r
wybodaeth ynglyn â chyraeddiadau Ysgol Gymuned Carreglefn,
Ysgol Gymuned Bryngwran ac Ysgol Gymuned Rhosybol ym maes Addysg
Grefyddol gan ofyn i'r Swyddog Addysg (Uwchradd) ysgrifennu at y
dair ysgol i gyfleu i'w staff a'u disgyblion werthfawrogiad y CYSAG
o'u hymrechion a'i falchder ynglyn â'u
cyflawniad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cadarnhawyd yn ffurfiol
enwebiad y Parch. Elwyn Jones yn aelod cyfetholedig o CYSAG i
olynu'r Parch. Aled Davies fel cynrychiolydd Cyngor yr Ysgolion
Sir.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd er gwybodaeth
i'r CYSAG - ddyddiadau o bwys yng nghalendar y misoedd nesaf
fel a ganlyn :
|
|
|
|
7 Ebrill, 2006 -
Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Margam.
|
|
|
|
Nodwyd bod y Cadeirydd yn
bwriadu bod yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|
|
|
20 Mai, 2006 -
Cynhadledd arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC yn
Llandrindod gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn
siaradwraig wâdd.
|
|
|
|
Nodwyd bod yna wahoddiad i
CYSAG Môn anfon 4 aelod a hyd at 12 athro/awes i'r gynhadledd
uchod a bod Ymgynghorydd y Dyniaethau a'r Athro Ymgynghorol Addysg
Grefyddol ill dau yn bwriadu bod yn bresennol ynddi.Gofynnwyd i
aelodau'r CYSAG ystyried a fyddent yn dymuno mynychu'r achlysur ac
os felly, eu bod yn cyflwyno unrhyw enwebiadau i'r Swyddog Addysg
(Uwchradd) mewn da bryd.
|
|
|
|
Codwyd pwynt ynglyn
â'r anhawster o geisio cael cynifer o gynrychiolwyr at ei
gilydd i fynychu achlysur o'r fath ar y penwythnos, a
gofynnwyd i'r Cadeirydd godi'r mater yn y cyfarfod.
|
|
|
|
23 Mehefin, 2006 -
Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yng Nghaernarfon.
|
|
|
|
Nodwyd bod y Cadeirydd a'r
Swyddog Addysg (Uwchradd) yn bwriadau bod yn bresennol yn y
cyfarfod.
|
|
|
|
|
|
|
|
Nodwyd nad oedd unrhyw
ohebiaeth wedi'i dderbyn oedd angen ystyriaeth benodol gan y
CYSAG.
|
|
|
|
11
|
CYFARFODYDD Y CYSAG AM Y FLWYDDYN I DDOD
|
|
|
|
|
Ystyriwyd a chytunwyd y
byddai cyfarfodydd y CYSAG am y flwyddyn i ddod yn cael eu cynnal
ar y ddyddiadau a'r amseroedd a ganlyn:
|
|
|
|
dydd Llun, 12 Mehefin,
2006 am 2 o'r gloch y prynhawn;
|
|
dydd Llun, 9 Hydref, 2006
am 2 o'r gloch y prynhawn;
|
|
dydd Llun, 5 Chwefror,
2007 am 2 o'r gloch y prynhawn.
|
|
|
|
|
|
|
|
E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|