Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 25th February, 2008

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Eurfryn G.Davies (Cadeirydd)

 

 

 

Cynghorydd Gwilym O.Jones

 

Yr Enwadau Crefyddol

Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Diacon Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Miss Jane Richards (NUT)

Mr Martin Wise (ASCL)

Mrs Mefys Edwards (UCAC)

 

Aelodau Cyfetholedig

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Cymru Bangor)

Parch Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr Mrs B.Burns, MBE, P.M.Fowlie, Thomas Jones,

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Parch. Irfon Jones (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg), Mrs Carol Llewelyn Jones (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a gyflwynwyd uchod.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at absenoldeb y Parch. Irfon Jones a rhoddodd wybod i’r aelodau nad oedd y Parch. Mr Jones wedi bod cystal ei iechyd yn ddiweddar. Cytunwyd y dylid anfon llythyr at y Parch. Irfon Jones i gyfleu iddo ddymuniadau gorau’r CYSAG am adferiad iechyd llawn a buan.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Martin Wise, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi i’w gyfarfod cyntaf o’r CYSAG ac estynodd groeso’n ôl i Mrs Heledd Hearn a oedd yn ail gydio yn y gwaith.

 

Sylwodd y Cadeirydd yn ogystal ei fod yn gwerthfawrogi presenoldeb selog yr aelodau yng nghyfarfodydd y Cyngor Ymgynghorol ynghyd â’u hymroddiad i’r gwaith. Fodd bynnag, gyda thymor y Cyngor Sir presennol yn dirwyn i’w ben, roedd yn fater o loes a phryder iddo nad oedd grwp gwleidyddol y Radicaliaid Annibynnol wedi gweld yn dda i enwebu cynrychiolydd o’i blith i wasanaethu ar y CYSAG er iddo godi’r mater hwn mewn cyfarfod o’r Cyngor Sir cryn amser yn ôl a gwahodd y grwp i benodi aelod i gymryd y sedd yr oedd ganddo hawl iddi  ar y Cyngor Ymgynghorol.

 

 

 

 

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, yn amodol ar y materion a nodir isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2007.(Cofnodion y Cyngor 13.12.2007, tud 81 - 87)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

3.1

Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at y Parch. Stephen Francis Roe yn y Rhestr Ymddiheuriadau i ddarllen y Diacon Stephen Francis Roe.

 

 

 

3.2

Eitem 4 - Arolygiadau Ysgol

 

 

 

Ÿ

Penderfynwyd nodi mai o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 y cynhelir arolygiadau ysgol gan Estyn yn awr ac o dan Adran 50 y Ddeddf y cynhelir arolygiadau gan yr Eglwys.

 

 

 

Ÿ

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi llythyru penaethiaid Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Llaingoch yn unol â dymuniad y CYSAG i’w llongyfarch ar eu cyflawniad fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau arolygiad. Roedd yr ohebiaeth wedi’i hatodi ar derfyn rhaglen y CYSAG er gwybodaeth yr aelodau.

 

 

 

3.3

Eitem 6 - Cymdeithas CYSAGau Cymru

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at y penderfyniad o dan yr eitem hon i lythyru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar fater darparu adnoddau ychwanegol i alluogi cyflwyno’r Prosiect Croeso trwy gyfrwng y Gymraeg, ac adroddodd ei fod wedi gweithredu yn hyn o beth ac roedd ymateb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wedi’i atodi fel rhan o’r pecyn gohebiaeth.

 

 

 

3.4

Eitem 8 - Trefn Gyfarfodydd CYSAG Ynys Môn 2007/08

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) yr aelodau bod y CYSAG bellach wedi ffurfioli cynnwys ei gyfarfodydd am y flwyddyn mewn rhaglen waith, a bod y rhaglen waith honno wedi’i diwygio i ymgorffori sylw’r Is-Gadeirydd mai yng nghyfarfod y Gwanwyn yr ystyrir enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

 

 

3.5

Eitem 9 - Dyddiadau Cyfarfodydd CYSAG Ynys Môn

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth yr aelodau mai ar 6 Hydref y cynhelir cyfarfod y CYSAG am dymor yr Hydref a hynny er mwyn osgoi gwrthdaro gyda Llun y Diolchgarwch.

 

 

 

4

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu, Ysgol Gynradd Caergeiliog, ac Ysgol Santes Fair, Caergybi.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ynghylch casgliadau’r arolygiadau uchod fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu

 

 

 

Arolygiad safonol gafodd Ysgol Ffrwd Win, sy’n golygu adroddiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r saith cwestiwn allweddol ynghyd ag adroddiad ar chwe phwnc hefyd. Dyfarnwyd Gradd 2 i’r ysgol yn achos 6 allan o 7 o’r cwestiynau sy’n golygu y canfuwyd nodweddion da yn achos pob un o’r chwe chwestiwn yma a dim diffygion pwysig, ac fe ddyfarnwyd Gradd 3 i’r ysgol yn achos Cwestiwn Allweddol 6 - Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau, sy’n golygu bod y nodweddion da yn gorbwyso’r diffygion. Nid oedd Addysg Grefyddol ymhlith y pynciau unigol a arolygwyd y tro hwn, ond fe gynhwysir yn yr adroddiad, ddyfyniad o’r casgliadau mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Canfu’r Arolygydd bod yr ysgol yn “hybu datblygiad ysbrydol, cymdeithasol, moesol a diwylliannol y disgyblion yn dda,” bod yna gynnal sesiynau addoli ar y cyd yn ddyddiol yn yr ysgol a bod y disgyblion yn cael cyfleoedd cyson i fyfyrio ar foeswersi. Nodir hefyd bod yna  “sylw dyledus” yn cael ei roi i ddatblygu ymwybyddiaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth byd eang trwy gyfrwng gwersi daearyddiaeth, celf, ac addysg grefyddol a thrwy weithgareddau elusennol.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Sefydledig Caergeiliog

 

 

 

Dywed yr Arolygydd bod Ysgol Caergeiliog yn ysgol dda sydd wedi cynnal safonau uwch na’r cyfartaledd am sawl blwyddyn a’i bod wedi parhau i ffynnu a datblygu ers yr arolygiad diwethaf.

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Caergeiliog yng nghyswllt y saith cwestiwn allweddol yn unffurf Gradd 2 ar draws ystod y meysydd mae’r cwestiynau allweddol yn ymwneud â hwy. Yn yr achos hwn fe arolygwyd Addysg Grefyddol fel pwnc, ac unwaith eto fe ddyfarnwyd Gradd 2 i Addysg Grefyddol yn CA1 ac yn CA2. Yn y dyfyniad o’r adroddiad arolygiad fe restrir y nodweddion da, ac ystyrir bod rhai o ganfyddiadau’r Arolygydd  yn hyn o beth yn teilyngu sylw megis y canlynol -

 

 

 

Ÿ

Mae’r Arolygydd o’r farn bod gan ddisgyblion CA1 ddealltwriaeth dda am ddathliadau yn y calendr Cristnogol a’u bod hefyd yn deall arwyddocâd yr Eglwys yn y gymuned;

 

Ÿ

bod disgyblion CA2 sy’n cymryd rhan mewn perfformio bedydd mewn eglwys leol yn datblygu dealltwriaeth dda o ddefod mewn digwyddiad eglwysig o’r fath. Mae gan y disgyblion hefyd wybodaeth fanwl ac ar gof o straeon o’r Hen Destament ac maent yn gallu eu hailadrodd yn dda;

 

Ÿ

sylwa’r Arolygydd ar y ddealltwriaeth dda sydd gan ddisgyblion CA1 o egwyddorion moesol a’u gallu i’w trafod yn synhwyrol. Cyfeiria hefyd at eu hymwybyddiaeth o ddathliadau mewn crefyddau eraill a’r ffaith eu bod yn siarad am y dathliadau yma “gyda diddordeb;”

 

Ÿ

nodir bod disgyblion CA2 wedi bod yn ymweld ag eglwys gadeiriol leol a’u bod yn siarad am yr ymweliad ac yn deall arwyddocâd nodweddion arbennig megis y pulpud;

 

Ÿ

cyfeirir at y ffaith bod gan ddisgyblion iau CA2 wybodaeth am y gwahanol enwadau Cristnogol o fewn eu cymdogaeth a bod eu hysgrifennu yn adlewyrchu dealltwriaeth o’r gwahaniaethau a’r nodweddion tebyg rhwng eglwys a chapel;

 

 

 

Ystyrir bod y sylwadau uchod o eiddo’r Arolygydd yn tystio i nifer o nodweddion cadarnhaol o fewn profiadau disgyblion Ysgol Caergeiliog.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Santes Fair

 

 

 

Mae’r crynodeb o ganfyddiadau’r Arolygydd  o Ysgol Santes Fair yn ganmoladwy iawn. Mae’n disgrifio’r ysgol fel un dda sydd yn darparu addysg o ansawdd uchel i’w disgyblion. Sylwa’r Arolygydd hefyd bod ymddygiad y disgyblion yn rhagorol a bod yr ysgol yn gymuned hapus ac yn un lle mae’r disgyblion yn mwynhau eu profiadau dysgu. Ym marn yr Arolygydd, mae’r ysgol yn cael ei harwain yn dda ac mae’r rheolwyr wedi creu ethos ardderchog sy’n adlewyrchu arwyddair yr ysgol - Disgleiriwch yng Ngolau Crist.

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Santes Fair o ran y saith Cwestiwn Allweddol eto’n gyson Gradd 2. Ni chafodd Addysg Grefyddol ei arolygu fel pwnc ond fe gynhwysa’r wybodaeth a gyflwynir  gasgliadau’r Arolygydd mewn perthynas â pha mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Yn y cyd-destun hwn daw’r Arolygydd i’r casgliad bod yr ysgol yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda a bod y ddarpariaeth ar gyfer datblygiad ysbrydol yn dda. Sylwir bod cyd-addoli yn gwneud cyfraniad gwerthfawr a bod yna ethos Catholig clir gyda chyfleoedd da i’r disgyblion fyfyrio’n dawel. Ym marn yr Arolygydd, mae’r disgyblion yn arddangos parch tuag at staff ac mae ganddynt agweddau aeddfed, gofalgar a goddefgar tuag at ei gilydd.

 

 

 

Croesawodd yr aelodau’r  wybodaeth uchod yn deillio o’r arolygiadau fel tystiolaeth o waith caled, o brofiadau cadarnhaol ac o gyrhaeddiadau canmoladwy ar draws y tair ysgol ac roeddent yn awyddus i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gyfleu yn ôl yr arfer, werthfawrogiad a diolchiadau dilysaf y CYSAG i staff a disgyblion y tair ysgol am eu hymroddiad a’u llwyddiant.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth o’r adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Ysgol Sefydledig Caergeiliog ac Ysgol Santes Fair, Caergybi gan ofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru’r tair ysgol i gyfleu iddynt werthfawrogiad a diolchiadau’r CYSAG ar eu cyflawniadau.

 

 

 

5

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - Copi terfynol o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2006/07.

 

 

 

Sylwodd y Cadeirydd y cyflwynwyd  fersiwn drafft yr adroddiad blynyddol gerbron y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol pryd y cafodd y Cyngor gyfle i gynnig ei farn ar y cynnwys, a nododd bod y fersiwn derfynol yn ddogfen i fod yn falch ohoni fel tysteb o waith y Cyngor Ymgynghorol dros y flwyddyn a fu. Roedd y diolchiadau arferol yn ddyledus i Miss Bethan James, Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei mewnbwn gwerthfawr i’r Adroddiad Blynyddol.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn y fersiwn derfynol o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2006/07.

 

 

 

6

FFRAMWAITH ENGHREIFFTIOL CENEDLAETHOL AR GYFER ADDYSG GREFYDDOL/MAES LLAFUR CYTÛN

 

 

 

Cytunwyd i gyplysu’r drafodaeth ar eitemau 6 a 7 ar y rhaglen.

 

 

 

Cyflwynwyd -  Copi o’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru ynghyd ag adroddiad yn amlinellu amserlen arfaethedig ar gyfer cyflwyno a mabwysiadu Maes Llafur Cytûn newydd i Wynedd a Môn.

 

 

 

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad gweledol ynglyn â’r sefyllfa ddiweddaraf parthed y Maes Llafur Cytûn ynghyd ag amlinelliad o gynnwys y Fframwaith gan ei chymharu a’i chyferbynnu â’r Maes Llafur Cytûn presennol. Cyfeiriodd at rai o’r prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Maes Llafur Cytûn Lleol 2000/05

 

 

 

Atgoffwyd y CYSAG ei fod yn gorff dylanwadol iawn ym maes Addysg Grefyddol ac nad oes gan y pynciau eraill y fath gynrychiolaeth yn lleol. Cyfeiriodd at y Maes Llafur Cytûn presennol  a sylwodd ei fod wedi gwasanaethu athrawon cynradd ac uwchradd Môn a Gwynedd yn dda ers rhai blynyddoedd. Bellach, mae fframwaith newydd ar y gweill ond  serch hynny credir bod y paratoad mae’r Maes Llafur Cytûn cyfredol wedi ei roi wedi bod yn gaffaeliad gwerthfawr. Fodd bynnag, mae tymor y Maes Llafur Cytûn cyfredol yn dirwyn i ben ac mae gofyn yn awr i’r CYSAG adolygu’r Maes Llafur Cytûn hwnnw. Nid oes i’r Fframwaith Enghreifftiol statws statudol; yn hytrach mae’n cynnig canllawiau anstatudol i gynorthwyo awdurdodau addysg lleol  wrth adolygu eu meysydd llafur cytun lleol. Tasg y CYSAG fydd rhoi grym i’r Fframwaith trwy ei fabwysiadu’n llawn neu ei addasu wrth adolygu’r Maes Llafur Cytûn.

 

 

 

Ÿ

Cefndir

 

 

 

Yn y cyfnod o 2000 i 2005 bu i ACCAC a Chymdeithas CYSAGau Cymru drafod y cysyniad o Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol  mewn cynhadledd yn Llanidloes. Aeth ACCAC gam ymhellach trwy ganiatau i’r Swyddog Pwnc lunio deunyddiau asesu enghreifftiol. Roedd hyn yn orchwyl anodd ym maes Addysg Grefyddol o gofio bod nifer o awdurdodau addysg lleol Cymru gyda’u meysydd unigryw eu hunain a olyga nad oedd yna gysondeb o ran lefelau cyrhaeddiad yn genedlaethol.

 

 

 

Yn y cyfnod 2005 i 2007, cafwyd cyfnod o ymgynghori wrth adolygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bu i gyrff CYSAGau Gwynedd a Môn ohirio cyflwyno Maes Llafur Cytun newydd gan ddisgwyl i weld beth oedd ar y gweill yn genedlaethol. Trefnwyd cynhadledd yn Llandrindod gan AADGOS a Chymdeithas CYSAGau Cymru a chafwyd cyfnod o ymgynghori gyda chyrff CYSAGau unigol, athrawon ac ymgynghorwyr i gywain barn am fersiwn drafft y Fframwaith.

 

 

 

Yn 2007 cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd rhwng cynrychiolwyr Gwynedd a Môn a chydsyniodd y ddau gorff CYSAG mewn egwyddor i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol. Rhoddwyd cyfle i athrawon cynradd ac uwchradd drafod y ddogfen ymgynghorol hon mewn cyrsiau HMS. Bydd gofyn i CYSAGau Gwynedd a Môn wneud penderfyniad statudol i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol mewn Cynhadledd sydd wedi’i chynnull i’r pwrpas.

 

 

 

Fel rhagbaratoad i’r digwyddiad hwnnw, sefydlwyd gweithgor traws-awdurdod gyda swyddogion ac athrawon cynradd ac uwchradd o Fôn a Gwynedd i drafod y Fframwaith Enghreifftiol ac ystyriaethau perthynol, ac mae’r gweithgor wedi cyfarfod ar ddau achlysur.

 

 

 

Ÿ

Ionawr 2008 - Addysg Grefyddol

 

 

 

Ymhlith yr ystyriaethau cyntaf oedd dangos y berthynas rhwng y Fframwaith Enghreifftiol a’r Maes Llafur Cytun Lleol cyfredol. Yn greiddiol i Cwricwlwm 2008 yw’r cysyniad bod sgiliau yn bwysicach nag ystod.

 

 

 

Mae’r ystod  yn seiliedig ar 3 cyd-destun -

 

 

 

Y Byd

 

Profiad Dynol

 

Chwilio am Ystyr

 

 

 

Yn hytrach na bod y disgybl yn derbyn corff o wybodaeth gan yr athro/athrawes mae’r pwyslais ar i ddisgyblion ddod at eu casgliadau eu hunain trwy ymdrin â’r meysydd astudio uchod ac is-themâu perthnasol.

 

 

 

Mae’r sgiliau yn gofyn i ddisgyblion i -

 

 

 

Ystyried y cwestiynau sylfaenol

 

Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac ymarferion crefyddol

 

Fynegi ymateb personol

 

      

 

     Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi wedyn i ddangos trwy gyfres o sleidiau lliw sut mae’r Fframwaith Enghreifftiol yn cyd-gyffwrdd â’r hyn sy’n digwydd eisoes o dan y Maes Llafur Cytun Lleol presennol ym mhob un 3 cyd-destun (Ystod) uchod a hefyd o ran y gofynion mewn perthynas â sgiliau. Er enghraifft, yn Rhaglen Astudio CA2 ceir o dan Ystod - Y Byd, yr is-themau -  dechreuad a phwrpas bywyd  a’r byd naturiol a phethau byw lle mae disgwyl i ddisgyblion ddeall sut mae dehongliadau o ddechreuad y byd a bywyd yn dylanwadu ar farn pobl, a sut mae crefyddau yn dangos pryder a chyfrifoldebau. Gwneir gwaith eisoes o dan y Maes Llafur Cytun presennol mewn perthynas â’r byd yn y cyd-destun amgylcheddol ac ystyrir sut mae gwarchod y blaned yn perthnasu i gred yr unigolyn.

 

      

 

     O ran datblygu sgiliau, disgwylir i ddisgyblion ymdrin â’r cwestiynau sylfaenol trwy gyfleoedd i ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol sy’n codi trwy eu profiadau eu hunain, y byd o’u cwmpas ac agweddau ar grefydd. Rhoddwyd ystyriaeth yng Ngwynedd a Môn ers rhai blynyddoedd bellach i’r syniad o gynnig cwestiynau i ddisgyblion eu trafod, a hefyd gofyn i blant ateb cwestiynau mawr a llunio cwestiynau sylfaenol eu hunain megis -

 

      

 

     pam fod pethau drwg yn digwydd i bobl dda;

 

     ble mae Duw

 

     beth sy’n digwydd ar ôl i chi farw

 

     beth yw’r gwahaniaeth rhwng taith a phererindod

 

      

 

Ÿ

Barn Athrawon a’r Gweithgor

 

 

 

Mae athrawon a’r cynrychiolwyr sy’n gwasanaethu ar y gweithgor yn gefnogol i’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol fel y mae, ac maent yn croesawu’r ffaith y rhydd y Fframwaith elfen o gysondeb ar draws Cymru a chyda phynciau eraill. Nid ydynt yn teimlo bod angen addasu fformat na chynnwys y Fframwaith ond maent yn awyddus bod yna ganllawiau ac arweiniad enghreifftiol yn cael eu dosbarthu i ysgolion ar ffurf atodiad i’r Fframwaith.

 

 

 

Ÿ

Beth sy’n rhaid i’r CYSAG ei ystyried

 

 

 

Rhaid i’r CYSAG ystyried pa fath o ddogfen atodol mae’n rhaid ei chyflwyno ar ran CYSAGau Môn a Gwynedd i gyd-fynd gyda’r Fframwaith Enghreifftiol - mae athrawon yn awyddus i gael canllawiau dysgu ac addysgu.

 

 

 

Ÿ

Cyfnod Sylfaen/CA4/CA5

 

 

 

Rhaid cofio bod y Fframwaith Enghreifftiol  Cenedlaethol yn cwmpasu ystod oedran o ‘r cyfnod sylfaen i’r cyfnod ôl-16, ac mae’r athrawon hynny sydd wedi dod at ei gilydd yn awyddus i weld dosbarthu arweiniad traddodiadol a chyfarwydd ar ffurf cynllun tymor hir sy’n dangos beth yw’r disgwyliadau o ran beth mae’r plentyn yn ei wneud o dymor i dymor. Mae sylw wedi cael ei roi i fapio’r Cwricwlwm fel bod yna greu 3 neu 4 mlynedd o waith, a hefyd, rhoddwyd ystyriaeth i ffyrdd o gynllunio tymor byr, sef tymor o waith sydd yn gyfarwydd i’r ysgolion. Bydd yn gysur i’r ysgolion wybod nad yw Cwricwlwm 2008  mor wahanol i’r maes llafur presennol ond mae’r ffocws yn fwy ar sgiliau. Fodd bynnag, fe fydd cyflwyno Addysg Grefyddol i’r Cyfnod Sylfaen yn wahanol gyda llai o bwyslais ar y pwnc a mwy o ganolbwyntio ar gael plant i fod yn weithredol ac i chwarae yn bwrpasol. O ran disgyblion CA4 a CA5, gwyddys eisoes bod cyflwyno Addysg Grefyddol i’r dosbarthiadau yma yn heriol, a rhaid efallai bod yn barod i ddangos bod yna ffyrdd a modelau amgen o gyflwyno Addysg Grefyddol i’r cyfnodau yma  megis ar ffurf cynadleddau, gwaith ar y wefan, datrys problemau, perthnasu AG i feysydd eraill ac ati. Bydd gofyn i’r CYSAG ystyried a yw’n barod i gefnogi cyfryngau gwahanol o gyflwyno Addysg Grefyddol yn arbennig i ddisgyblion chweched dosbarth.

 

 

 

Ÿ

Camau Nesaf

 

 

 

cytuno ar amserlen

 

derbyn barn aelodau CYSAG

 

ystyried a oes angen lansiad swyddogol

 

cyflwyniad i benaethiaid ysgolion

 

hyfforddiant i athrawon

 

 

 

     Diolchodd y Cadeirydd yn fawr iawn i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad trylwyr a chynhwysfawr a gwahoddodd yr aelodau i gyflwyno eu barn ynghylch y ffordd ymlaen. Yn y drafodaeth ddilynol, gwyntyllwyd y syniadau canlynol -

 

      

 

Ÿ

adroddwyd bod CYSAG Conwy wedi mabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol fel offeryn swyddogol mewn Cynhadledd a’i fod yn fwriad i gylchredeg y ddogfen i ysgolion drachefn gyda chlawr newydd arni yn dwyn logo cynghorau Fflint, Dinbych a Chonwy. Penderfynwyd ail argraffu’r ddogfen yn ei chyfanrwydd gyda chlawr newydd ar y rhesymeg byddai hyn yn dynodi ei mabwysiadu’n ffurfiol fel y Maes Llafur Cytun Lleol. (Dygwyd sylw at y ffaith y newidiwyd y ddogfen mewn un man, sef diwygio’r cyfeiriad at hawliau anifeiliaid yn Rhaglen Astudio Enghreifftiol CA4  ac Ôl-16 i ddarllen gofal a lles anifeiliaid);

 

Ÿ

awgrymwyd gosod logo Gwynedd a Môn ar glawr newydd i’r ddogfen atodol/canllawiau ar y cyd;

 

Ÿ

awgrymwyd y gallai’r CYSAG fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol fel maes llafur cytun gan ddirprwyo trafod y logo a’r canllawiau i’r gweithgor;

 

Ÿ

awgrymwyd cyfuno Cynhadledd ar y cyd gyda Gwynedd a lansiad swyddogol y Maes Llafur Cytun newydd yn amodol ar edrych ar y protocol cyfreithiol ar gyfer cynnull Cynhadledd.

 

 

 

     Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd cefnogi amserlen ar y llinellau a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

CYSAG Ynys Môn i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mehefin;

 

Ÿ

Yn amodol ar y gofynion cyfreithiol, edrych ar y posibilrwydd wedyn o gynnull Cynhadledd Maes Llafur Cytun Lleol ar y cyd â Gwynedd a lansiad swyddogol;

 

Ÿ

Bod ystyriaeth ddilynol yn cael ei rhoi i addasu’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol fel bod yna berchnogaeth leol ohono.

 

 

 

7

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Cofnodion drafft cyfarfod  Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy ar 4 Rhagfyr, 2007.

 

      

 

     Ymddiheurodd y Cadeirydd am nad oedd wedi bod yn bresennol, trwy amryfusedd, yn y cyfarfod uchod. Cyfeiriodd hefyd gydag anfodlonrwydd (ac fe’i ategwyd gan weddill yr aelodau) at y ffaith bod darllen fersiwn Gymraeg y cofnodion wedi bod yn hynod o anodd oherwydd bod y dyfrnod “Drafft” wedi’i osod ar draws y cofnodion, a sylwodd byddai’n dwyn sylw Ysgrifennydd y Gymdeithas at hyn.

 

      

 

     Cyferiodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at rai pwyntiau o’r cyfarfod fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Bod llythyr gan y Gymdeithas wedi’i anfon at y Parch.Aled Edwards o Brosiect Croeso ynglyn â’r mater o ddiffyg swyddogion oedd yn gallu cyflwyno’r prosiect drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe gafwyd ymateb i’r perwyl bod y Swyddog Cyfrwng Cymraeg a gyflogwyd wedi ymadael a byddai swyddog newydd yn cael ei b/phenodi ym mis Ebrill, 2008 gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn un o ofynion y swydd.

 

Ÿ

Awgrymwyd bod ystyriaeth yn cael ei roi i enwebu Mr Rheinallt Thomas, Is-Gadeirydd y CYSAG ar gyfer swydd Is-Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn amodol ar gadarnhau gyda’r Is-Gadeirydd ei fod yn gymwys i gael ei enwebu.

 

Ÿ

Dygwyd sylw i benodiad Dr.William Maxwell fel Prif Arolygydd Estyn i olynu Susan Lewis, a hefyd at y cyflwyniad gan NAPfRE ar destun Ymestyn a Herio - Y Cysyniadau Allweddol ar gyfer yr Arholiad Astudiaethau Crefyddol Lefel A Newydd sydd i’w gyflwyno yn 2008.

 

 

 

     Cadarnhawyd y byddai’r Cadeirydd ac Ymgynghorydd y Dyniaethau ar gael i fynychu cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 14 Mawrth yng Nghaerfyrddin.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r cofnodion o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy ar 4 Rhagfyr, 2007.

 

 

 

8

GOHEBIAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth yr ohebiaeth ganlynol -

 

      

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 22 Hydref, 2007 gan y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at gyn Bennaeth Ysgol Gynradd Corn Hir ynglyn â’r adroddiad arolygiad gafodd yr ysgol oedd yn ganmoladwy o agweddau Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 8 Tachwedd, 2007 gan y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at benaethiaid ysgolion uwchradd Ynys Môn i gyfleu iddynt werthfawrogiad y CYSAG am y gwaith caled a arweinodd at ganlyniadau da mewn arholiadau allanol Addysg Grefyddol yn 2007;

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 7 Tachwedd, 2007 gan y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at yr Athro Leslie Francis yn dymuno’n dda iddo yn ei swydd newydd ym Mhrifysgol Warwick ac yn diolch iddo am ei gyflwyniad i’r CYSAG.

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 5 Rhagfyr, 2007 oddiwrth yr Athro Leslie Francis yn diolch i CYSAG Ynys Môn am eu dymuniadau caredig ac yn cadarnhau ei fwriad i gadw cyswllt gyda Gogledd Cymru, cyrff CYSAGau lleol a bywyd addysg grefyddol yng Nghymru yn gyffredinol.

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 30 Rhagfyr, 2007 oddi wrth Mr Brian Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol mewn ymateb i lythyr gan y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ynglyn â’r angen i sicrhau y caiff y Prosiect Croeso ei ddarparu yn ddwyieithog, yn cadarnhau byddai’r mater yn cael sylw a thrafodaeth bellach gyda golwg ar sicrhau bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol yn cael eu cynnal yn ddwyieithog.

 

 

 

9

CYFARFOD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, dydd Llun, 9 Mehefin, 2008.

 

      

 

10

DYDDIADAU CYFARFODYDD CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd nesaf y Gymdeithas ar 14 Mawrth, 2008 yng Nghaerfyrddin ac ar 26 Mehefin, 2008 yn yr Wyddgrug.

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                         Cynghorydd E.G.Davies

 

                                                                  Cadeirydd