Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Tuesday, 8th July, 2008

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Eurfryn G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Canon Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Diacon Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Mr Martin Wise (ASCL)

 

Aelod Cyfetholedig

 

Parch. Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd Thomas Jones, Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

Miss Jane Richards (NUT), Mrs Mefys Edwards (UCAC)

 

 

 

 

 

1

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

 

Estynwyd croeso i bawb oedd yn bresennol ac fe gyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb gan y rhai a restrwyd uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd y Parch Elwyn Jones ddiddordeb yn eitem 5 - Arolygiadau Ysgolion ar y sail ei fod yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Llangefni oedd ymhlith y dair ysgol y nodwyd fel rhai oedd wedi derbyn arolygiad ac yr oedd gwybodaeth amdano wedi’i gynnwys ar y rhaglen.

 

3

AELODAETH

 

Cadarnhawyd aelodaeth y CYSAG yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol ac fe nodwyd bod dau aelod etholedig newydd wedi’u  penodi i wasanaethu ar y corff, sef y Cynghorydd Raymond Jones a’r Cynghorydd Peter Rogers.

 

 

 

Yn y cyswllt hwn llongyfarchwyd y Cadeirydd ar ei benodiad i Bwyllgor Gwaith y Cyngor Sir fel deilydd Portffolio Addysg a Hamdden.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2008.

 

Yn codi -

 

 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi gweithredu’n unol â dymuniadau’r CYSAG mewn perthynas â llythyru’r Parch. Irfon Jones i ddymuno adferiad iechyd buan iddo, a mewn perthynas â llythyru’r  dair ysgol y cyflwynwyd gwybodaeth am arolygiadau yn eu cylch yn y cyfarfod blaenorol i gyfleu iddynt ddiolchiadau aelodau’r CYSAG am eu gwaith da.

 

 

 

5

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Gyfun Llangefni.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) am gasgliadau’r arolygiadau uchod fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Biwmares

 

 

 

Arolygiad byr gafodd Ysgol Gynradd Biwmares sy’n golygu ceir adroddiad ysgrifenedig ar saith cwestiwn allweddol ond ni cheir unrhyw adroddiadau pwnc. Mae Estyn yn mesur perfformiad ysgol yn erbyn graddfa pum pwynt lle mae Gradd 1 yn dynodi da gyda nodweddion rhagorol a Gradd 5 yn dynodi llawer o ddiffygion. Mae proffil gradd Ysgol Gynradd Biwmares ar draws y saith cwestiwn allweddol yn gyfuniad o Raddfeydd 2 a 3 sy’n golygu y canfu’r Arolygwr bod yna nodweddion da o ran pump allan o’r saith cwestiwn allweddol a dim diffygion pwysig (Gradd 2); ac mewn perthynas â’r ddau gwestiwn allweddol arall yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth strategol a pha mor dda mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau, daw’r Arolygydd i’r casgliad bod nodweddion da yn gorbwyso diffygion (Gradd 3).

 

 

 

Mewn perthynas â chwestiwn allweddol 3 sy’n gofyn pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, ym marn yr Arolygydd mae’r ysgol yn hyrwyddo datblygiad medrau personol disgyblion gan gynnwys eu datblygiad ysbrydol, cymdeithasol, moesol a diwylliannol yn dda a rhydd gyfleoedd cyson iddynt gyfrannu at achosion da megis Barnados ac UNICEF. Dywed yr Arolygydd hefyd bod y sesiynau addoli ar y cyd, a’r cyfleoedd ynddynt i drafod ac i fyfyrio, yn cyfrannu’n dda tuag at ddatblygiad ysbrydol y disgyblion.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Goronwy Owen

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Gynradd Goronwy Owen ar draws y saith cwestiwn allweddol  yn gyson Gradd 2, sef bod yna nodweddion da a dim diffygion pwysig. Yng nghyswllt cwestiwn allweddol 3 - pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, mae’r Arolygydd yn sylwi bod yr ysgol yn rhoi sylw da i ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol sy’n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd clir, a bod hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar ddysgu ac agwedd y disgyblion ym mywyd dyddiol yr ysgol. Ymhellach, dywed yr Arolygydd bod amser cylch, addysg grefyddol a thrafodaethau dosbarth am faterion cymdeithasol a moesol yn rhan annatod o fywyd yr ysgol. Rhoddir cyfleoedd cyson i fyfyrio a thrafod materion ysbrydol yn y gwasanaethau.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gyfun Llangefni

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Gyfun Llangefni yn gryf yn enwedig mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yn cynnwys Astudiaethau Crefyddol. Cafodd y pwnc Radd 2 yng Nghyfnod Allweddol 3 ac yng Nghyfnod Allweddol 4 hefyd ac fe ddyfarnwyd Gradd 1 i’r maes yn y chweched dosbaeth sy’n golygu bod yr Arolygydd o’r farn bod y ddarpariaeth yn dda gyda nodweddion rhagorol.

 

 

 

Gwahoddwyd Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol Gyfun Llangefni i’r cyfarfod hwn o’r CYSAG i siarad am gyflawniad yr ysgol yn enwedig o safbwynt y chweched dosbarth (eitem 6 ar y rhaglen), ond yn anffodus, ni allai fod yn bresennol. Fodd bynnag, dygir sylw’r aelodau at rai o sylwadau’r Arolygydd fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Yn 2006, roedd canran y disgyblion gafodd TGAU gradd A* i C ychydig yn  is  na ffigyrau AU Ynys Môn a Chymru-gyfan. Yn 2007, roeddent ychydig yn is na ffigyrau’r AU ond yn uwch na Chymru gyfan. Yn 2007 roedd cynnydd mawr yng nghanran y disgyblion a gafodd radd A* i C.

 

Ÿ

Bod canran y myfyrwyr sy’n cael lefel A gradd A neu B wedi bod yn uwch  na ffigyrau Cymru dros y tair blynedd diwethaf. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae hanner y myfyrwyr wedi cael gradd A neu B.

 

Ÿ

Parthed y chweched dosbarth, bod gan yr holl fyfyrwyr afael rhagorol ar y meini prawf asesu, ac maent yn defnyddio’r rhain yn dda i sicrhau bod eu gwaith o safon uchel bob amser.

 

Ÿ

Bod mwyafrif helaeth y myfyrwyr yn tynnu ar amrywiaeth eang o fynonellau i gyfoethogi’u traethodau. Maent yn eu defnyddio’n rhagorol o dda.

 

 

 

Roedd aelodau’r CYSAG yn falch iawn o’r adroddiadau uchod a’r casgliadau cyffredinol yr oedd yr  Arolygwyr wedi dod iddynt yn achos bob ysgol. Bu iddynt fynegi gwerthfawrogiad diffuant iawn o’r adroddiad arbennig o ganmoliaethus gafodd Ysgol Gyfun Llangefni gan nodi hefyd bod diolch yn ddyledus i Gwmni Cynnal am gynorthwyo’r ysgol i baratoi am yr arolygiad. Gofynnwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gysylltu gyda Phennaeth y dair ysgol ac yn achos Ysgol Gyfun Llangefni, Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol hefyd, i’w llongyfarch ar eu cyflawniadau ac i gyfleu iddynt ddiolch y CYSAG am eu hymroddiad a’u gwaith caled.

 

 

 

Penderfywnyd -

 

 

 

5.1

Nodi’r wybodaeth o’r adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Gynradd Goronwy Owen ac Ysgol Gyfun Llangefni.

 

5.2

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru penaethiaid y dair ysgol, ac yn achos Ysgol Gyfun Llangefni, Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yn ogystal, i gyfleu iddynt ddiolchiadau cynhesaf aelodau’r CYSAG am eu hymroddiad a’u gwaith caled.

 

 

 

6

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

6.1

Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 14 Mawrth, 2008.

 

 

 

Cyfeiriwyd at rai pwyntiau yn codi o’r cyfarfod fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Bod Cadeirydd CYSAG Ynys Môn wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod uchod ond nad oedd ei bresenoldeb wedi’i gofnodi. Pwysleisir y pwynt hwn oherwydd bod y Comisiwn Archwilo yn cynnal ymchwiliadau mewn perthynas â gwirio presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd yng nghyswllt archwilio treuliau.

 

Ÿ

Parthed y gwahoddiad gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost i bob chweched dosbarth yng anfon dau gynrychiolydd ynghyd ag athro/awes i ymweld ag Auschwitz, adroddwyd bod y gwahoddiad wedi dod ar amser anghyfleus pryd yr oedd disgyblion yn paratoi ar gyfer aroholiadau. Serch hynny, llwyddodd rhai ysgolion lleol - Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgol David Hughes ac athro o Ysgol y Bont i fanteisio ar y cyfle hwn ac awgrymir bod y CYSAG yn gwahodd y garfan  hon i’w gyfarfod nesaf i rannu eu profiadau o’r achlysur a’r gwaith sydd wedi dilyn hynny.

 

Ÿ

Bod trefniadau yn mynd rhagddynt o ran cynnal y Gynhadledd Ôl-16 ar ddydd Sadwrn, 4 Hydref. Pwrpas y gynhadledd yw codi ymwybyddiaeth o beth all Addysg Grefyddol ôl-16 ei gynnig a buddiannau hynny i ddisgyblion. Mae’r gwahoddiad wedi’i anelu yn benodol at uwch reolwyr ysgol yn hytrach nag athrawon Addysg Grefyddol er mwyn dwyn perswâd arnynt i neilltuo amser ar gyfer Addysg Grefyddol yn y cwricwlwm. Cynhelir cynhadledd yn y Gogledd yn y Fflint o dan  gadeiryddiaeth Mr Gavin Craigen a chynhadledd gyfatebol yn y De yng Nghaerdydd. Cododd y syniad o gynhadledd o gyfarfod rhwng Gweinidog Addysg y Cynulliad a chynrychiolwyr Cymdeithas CYSAGau Cymru ac APADGOS a gynhaliwyd yn ôl yn Nhachwedd, 2007.

 

Ÿ

Awgrymwyd bod ysgolion yn cael gwybod am becyn prosiect Tackling Tough Questions sydd wedi’i lunio gan Y Mudiad  Addysg Gristnogol ac y derbyniwyd cyflwyniad arno yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yng Nghaerfyrddin uchod. Gwyntyllwyd y posiblilrwydd o’i  gynnwys yn y Rhaglen HMS, a sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau er bod y rhaglen eisoes wedi cael ei pharatoi, efallai byddai modd dod o hyd i slot o amser ar ei gyfer.

 

 

 

6.2

Cyflwynwyd adborth ar lafar gan yr Is-Gadeirydd ynglyn â rhai pynciau trafod o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug ar 26 Mehefin fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Cafwyd cyflwyniad ar destun Addysg Grefyddol mewn diwydiant a’r byd gwaith gan Bartneriaeth Addysg Busnes. Yr hyn oedd dan sylw oedd sut gall Addysg Grefyddol fod o bwys yn y man gwaith a’r gyrfaoedd hynny lle roedd unigolion yn ymwybodol o gyswllt rhwng eu gwaith a chrefydd, sabwyntiau crefyddol a moeseg. Yn y Gynhadledd Addysg Grefyddol Ôl-16 sydd ar y gweill ar gyfer 4 Hydref fel y soniwyd yn gynharach, bydd Pennaeth coleg meddygol yn siarad am y cyswllt rhwng meddygaeth ac Addysg Grefyddol. Cynhaliwyd  Taith Llwybr Ffydd i Lerpwl yn ddiweddar ar gyfer athrawon a derbynwiyd 70 o geisiadau am gael cymryd rhan yn y daith sy’n tanlinellu’r angen am y math yma o ddapariaeth sy’n clymu ffydd/crefydd /ymagwedd grefyddol gyda gwaith dydd i ddydd. Hefyd yn ddiweddar cafwyd prosiect yn Ysbyty Gwynedd lle cynhaliwyd diwrnod yn yr Ysbyty fel lleoliad amlffydd yn edrych ar faterion  megis cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithle; dylanwad crefydd ar wirfoddoli a chyfraniad hyn oll yn nhermau’r economi. Nodwyd y cafwyd gefnogaeth arbennig gan Ysbyty Gwynedd i’r prosiect a bu staff yn barod iawn i drafod dylanwad eu ffydd ar eu gwaith.

 

Ÿ

O ran materion tefniadol, cynhaliwyd etholiadau yng nghyfarfod y Gymdeithas ar 26 Mehefin ac fe etholwyd Mr Vaughan Salisbury, Ceredigion  yn Gadeirydd y Gymdeithas; Mr Michael Grey, Caerffili yn Is-Gadeirydd a Tanya ap Sion yn Ysgrifenyddes y Gymdeithas. Bu i benodiad Tanya ap Sion i swydd yr Ysgrifenyddes adael lle gwag ar Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas ac fe etholwyd  Mrs Eirian Pierce o Gonwy ar y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod dwy flynedd sy’n weddill o dymor aelodaeth Tanya ap Sion ynghyd â Vicky Thomas, Torfaen a David Williams, Abertawe ill dau fel aelodau am gyfnod o dair blynedd.

 

Ÿ

Cyflwynwyd adroddiad y Trysorydd i’r Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28 Mehefin gan gynnwys argymhelliad bod y tanysgrifad blynyddol yn codi yn unol â’r gyfradd chwyddiant i £368. Hyderir bydd CYSAG Ynys Môn yn derbyn y ffi ymaelodaeth newydd mewn ymgynghoriad â’r Adran Addsyg a Hamdden.

 

 

 

Diolchwyd i’r Is-Gadeirydd am y wybodaeth uchod a chodwyd mater cynrychiolaeth CYSAG Ynys Môn yng nghyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSGAau Cymru yn arbennig o du grwp yr athrawon. Atgoffwyd yr aelodau ei bod yn bwysig bod cynrychiolaeth o bob grwp yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr adborth o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru o’r Wyddgrug gan ddiolch i’r Is-Gadeirydd amdano.

 

 

 

7

MABWYSIADU MAES LLAFUR CYTÛN GWYNEDD AC YNYS MÔN

 

 

 

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad gweledol i’r CYSAG ar y Maes Llafur Cytûn gyda chyfeiriad penodol at yr  Arweiniad Atodol a ddarparwyd gogyfer athrawon yn cynnig iddynt ganllawiau enghreifftiol ar gyfer dysgu ac addysgu’r Maes Llafur Cytûn.

 

 

 

Atgoffwyd aelodau am gyd-destun y ddogfen uchod ac adroddwyd mai cyfrifoldeb yr Awdurdodau Addysg Lleol trwy gyrff CYSAGau yw  llunio Maes Llafur Cytûn. Nid oes yna Gwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol ond mae ganddo statws cyfartal â phynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae cryn drafodaeth wedi bod ynghylch cael Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol ac mae Llywodraeth y Cynulliad trwy APADGOS wedi cyflwyno Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol a gefnogwyd gan athrawon Gwynedd a Môn. Rhoddwyd cyfle i aelodau CYSAGau Gwynedd a Môn ynghyd ag athrawon ac ymarferwyr proffesiynol ymateb i gynnwys y Fframwaith Enghreifftiol drafft hwn ac mae’r ddau gorff CYSAG  bellach am ei fabwysiadu fel Maes Llafur Cytûn.

 

      

 

     Datblygwyd y Fframwaith Enghreifftiol i gyd-fynd â’r Adolygiad o’r Cwricwlwm Ysgol 2008 ac mae’r pwyslais mawr ynddynt ar ddatblygu sgiliau. Awgrymir  yn y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol bod hyn yn cael ei gyflawni trwy ryngberthynas tri sgil craidd y pwnc, sef -

 

Ÿ

Ymdrin â’r cwestiynau sylfaenol

 

Ÿ

Archwilio credoau dysgeidiaethau ac arferion crefyddol, a

 

Ÿ

Mynegi ymatebion personol.

 

 

 

     Mae’r Fframwaith yn argymell y dylai disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau trwy ganolbwyntio ar gyd-destunau penodol i’w hastudio, sef yr Ystod sy’n cynnwys Y Byd, Profiad Dynol a Chwilio am Ystyr. O fewn y cyd-destunau unigol yma mae nifer o agweddau a disgwylir y bydd disgyblion yn astudio pob agwedd ar yr ystod, er enghraifft -

 

      

 

Ÿ

Y Byd yn cynnwys agweddau ar ddechreuad a phwrpas bywyd a’r byd naturiol a phethau byw.

 

Ÿ

Profiad Dynol yn cynnwys agweddau yn ymwneud ag Hunaniaeth Ddynol; Ystyr a Phwrpas Bywyd; Perthynas, Awdurdod a Dylanwad; Perthnasedd a chyfrifoldeb a Thaith Bywyd.

 

Ÿ

Chwilio am ystyr yn cynnwys agweddau yn ymwneud â’r anfaterol/ysbrydol a gwybodaeth a phrofiad o’r anfaterol/ysbrydol.

 

 

 

     O ddod at y Canllawiau Atodol, mae’r ddogfen hon yn ymrannu’n bedair rhan fel y nodir isod -

 

      

 

Ÿ

Y Cyflwyniad sy’n nodi penderfyniadau cyrff CYSAGau Ynys Môn a Gwynedd i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol fel Maes Llafur Cytun Lleol, statws gyfartal Addysg Grefyddol fel pwnc â phynciau eraill y cwricwlwm; cyfrifoldeb pob ysgol i sicrhau dilyniant a pharhad ym mhrofiadau disgyblion 5-19 oed trwy gynnig rhaglen gydlynus o Addysg Grefyddol ynghyd â’r gofyn bod amser teilwng, staff addas ac adnoddau digonol yn cael eu neilltuo i weithredu’r Maes Llafur Cytûn yn llwyddiannus.

 

 

 

Mae’n hysbys bod dyraniad amser i Addysg Grefyddol yn bwnc dadleuol ac nid oes cyfeiriad neilltuol iddo yn y Ddogfen Canllawiau Atodol. Ni welir gwerth mewn gorfodi disgyblion i fynychu gwers AG er mwyn boddhau’r gofyn yn unig - rhaid adnabod dulliau amgen a gwahanol o gyflwyno’r maes fydd yn rhoi profiad mwy ystyrlon i ddisgyblion na’r hyn a geir mewn slotiau amser dynodedig.

 

 

 

Cyfeirir yn y cyflwyniad at Grefyddau’r Byd. Yr oedd canllawiau eithaf penodol yn arfer bod ym Maes Llafur Cytûn 2000 ynglyn â dysgu credoau a chrefyddau eraill, mae’r Maes Llafur Cytûn Newydd yn cydnabod bod yna 6 prif grefydd a ddiffinnir fel Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindwaeth, Iddewiaeth, Islam a Sikhaeth. Y disgwyliad yw bod disgyblion yn dysgu am rai o brif grefyddau’r byd cyn diwedd eu gyrfa yn y sector cynradd a’u bod yn gwybod am holl grefyddau’r byd erbyn diwedd eu gyrfa uwchradd.

 

 

 

Holwyd yn y fan hyn ynglyn â’r graddau mae Cristnogaeth yn cael ei addysgu yn y chweched dosbarth a sylwyd bod yna drafodaeth gyfredol ynglyn â chyn lleied o Gristnogaeth sy’n ymddangos yn y ddarpariaeth chweched dosbarth.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol ac mai’r maes olaf y mae yna feirniadaeth wedi bod yn ei gylch yn hytrach na maes Addysg Grefyddol. Pan fo disgyblion yn dewis y pwnc i’w astudio hyd Lefel A mae cynnwys y cwrs yn ffactor; y duedd yn ddiweddar yw bod gostyngiad wedi digwydd yn y nifer sy’n dewis y papurau sy’n cynnwys Cristnogaeth a chynnydd wedi digwydd yn y nifer sy’n dewis y papurau hynny sy’n ymwneud â Bwdhaeth, a hynny am sawl rheswm, megis bod disgyblion yn deisyfu gwneud rhwybeth sy’n newydd ganddynt.

 

 

 

Ÿ

Canllawiau Cynllunio - rhestra’r ddogfen atodol gyfres o gyhoeddiadau all fod yn fannau cychwyn defnyddiol i athrawon wrth gynllunio profiadau priodol, perthnasol ac ysgogol i ddysgwyr. Mae’r cyhoeddiadau yn cynnwys Manteisio i’r Eithaf ar Ddysgu - y ddogfen sy’n gosod cyfeiriad a chyd-destun i Gwricwlwm 2008; y Fframwaith Sgiliau a’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ymhlith eraill. Rhydd yr adran hon o’r Ddogfen atodol arweiniad ynglyn â sut i ddefnyddio’r ystod i gynllunio trwy ddefnyddio er enghraifft, Stori’r Pasg a hefyd sut i ddefnyddio sgiliau Addysg Grefyddol i gynllunio. Rhoddir esiampl yn ogystal o sut i ddefnyddio thema i gynllunio. Er enghraifft cynllunio diwrnod ar y thema “12”, lle defnyddir y stori am ddisgyblion Iesu Grist yn ystod Yr Wythnos Olaf fel cyfrwng i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau’r Pasg.

 

 

 

Ÿ

Canallawiau Addysgu a Dysgu - awgryma’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol y dylid rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol. Bu i’r gweithgor o athrawon ac ymarferwyr proffesiynol wrth iddynt ystyried y Fframwaith, adnabod y gall rhai agweddau ohoni beri sialens i athrawon newydd yn arbennig er enghraifft beth yw cwestiynau sylfaenol. Felly mae’r ddogfen atodol yn cynnig enghreifftiau o beth a ystyrir yn gwestiynau sylfaenol megis -

 

 

 

Ÿ

Beth yw pwrpas bywyd?

 

Ÿ

Byd pwy ydy hwn?

 

Ÿ

Beth yw’r ffordd gywir i fyw?

 

Ÿ

Beth sy’n ein gwneud yn ddynol?

 

Ÿ

Pryd mae bywyd yn cychwyn?

 

Ÿ

Oes rhaid marw?

 

 

 

Mae Cwricwlwm 2008 a’r canllawiau “Sut i ddatblygu meddwl ac Asesu ar gyfer dysgu yn yr Ystafell Ddosbarth” yn nodi pwysigrwydd cwestiynu effeithiol gan athrawon a dysgwyr. Cynigir enghreifftiau o gwestiynau effeithiol gan APADGOS ac fe ellir addasu rhain ar gyfer Addsyg Grefyddol fel ag a ddangosir yn y canllawiau atodol. Mae’r cwestiynau  yn rhai sy’n ymwneud â cheisio eglurhad; cwestiynau sy’n procio rheswm a thystiolaeth; cwestiynau sy’n archwilio barnau gwahanol; cwestiynau sy’n profi goblygiadau a chanlyniadau, a chwestiynau am y cwestiwn/trafodaeth.

 

      

 

     Cynigir hefyd ganllawiau ar sut i gael plant i gynnal ymchwiliadau ym maes Addysg Grefyddol trwy ddefnyddio er enghraifft Olwyn Datrys Problemau TASC (TASC Problem Solving Wheel) ynghyd â Gwe Ystyr (The Web of Meaning). Mae’r esiampl olaf yma’n gofyn i blant feddwl am effaith ar eraill a safbwyntiau eraill pan yn ystyried materion o bwys neu ddilemau er enghraifft y cwestiwn o drawsblannu organau. Dull arall yr awgrymir ei ddefnyddio yw dull hetiau Edward De Bono (Awdur, Teaching Your Child to Think) lle mae hetiau gwahanol liwiau yn dynodi safbwyntiau - gwyn yn niwtral ac yn wrthrychol; coch yn gynnes, ffyrnig a thanllyd, glas yn oer ac yn y blaen.

 

      

 

     Ymwna gweddill y Canallawiau Atodol ag Addysg Grefyddol gyda dysgwyr y Cyfnod Sylfaen; Addysg Grefyddol gyda dysgwyr CA2,  Addysg Grefyddol gyda dysgwyr CA3; Addysg Grefyddol gyda dysgwyr CA4 ac Addysg Grefyddol gyda dysgwyr CA5 (16-19 oed) sy’n cynnwys dalen yn amlinellu sawl llwybr gwahanol ar gyfer darparu rhaglen Addysg Grefyddol ystyrlon a chydlynus i ddisgblion yr oedran yma sy’n bodloni’r Maes Llafur Cytûn ond sydd hefyd yn annog ysgolion i fod yn fwy creadigol eu hymagwedd i anghenion y garfan yma o ddisgyblion. Gofynnir yn benodol i’r CYSAG ystyried a yw am gefnogi’r dulliau amgen hyn o gynnig darpariaeth Addysg Grefyddol ôl-16.

 

 

 

Croesawyd y canllawiau atodol yn wresog gan aelodau’r CYSAG fel dogfen rydd arweiniad sy’n heriol, sy’n cynnig sefydlogrwydd a pharhâd o ran rhai agweddau o Faes Llafur Cytûn 2000 ond  sydd hefyd  yn ymateb i ddatblygiadau’r byd cyfoes ac yn yn eu cofleidio. Roedd aelodau’r CYSAG o’r farn bod y canllawiau yn berthnasol i‘r byd cyfoes a’u bod yn dod ag Addysg Grefyddol i mewn i fywyd pobl ifanc yn y gymdeithas fodern, a chan hynny eu bod fwy tebygol o ddenu bryd a diddordeb dysgwyr heddiw. O ran y daflen awgrymiadau parthed llunio darpariaeth Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth, roedd aelodau’r CYSAG yn cytuno bod y dyluniad a’r fformat a gynigir yn berthnasol, yn bositif ac yn hygyrch i bobl ifanc ac fe’i cefnogwyd ganddynt. Fodd bynnag, dygwyd sylw at y gofyn cyfreithiol o ran mabwysiadu’r Maes Llafur Cytûn bod rhaid iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Gynhadledd sydd wedi cael ei galw gyda rhybudd priodol. Awgrymwyd bod yna lynu at y llwybr ffurfiol hwn, ac yn dilyn trafodaeth ynglyn â’r gofynion fel y cânt eu gosod allan yng Nghylchlythyr 10/94, cytunwyd mai’r ffordd orau a mwyaf priodol o wneud hynny fyddai galw Cynhadledd ar derfyn cyfarfod nesaf y CYSAG ym mis Hydref.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

7.1     Cefnogi’r canllawiau atodol i’r Maes Llafur Cytûn fel y’u cyflwynwyd yn cynnwys y daflen Llwybrau Enghreifftiol i ddysgwyr CA5.

 

7.2     Bod Cynahdledd Maes Llafur Cytûn yn cael ei chynnal ar derfyn cyfarfod nesaf y CYSAG ym mis Hydref i fabwysiadu’n ffurfiol y Maes Llafur Cytûn Lleol newydd.

 

      

 

8     ADDOLI AR Y CYD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Arweiniad Atodol gan Estyn ar addoli ar y cyd mewn ysgolion anenwadol, yn disodli Newyddlen Estyn Rhif 1/98 Arolygu ar y Cyd (Awst, 1998). Anelir yr arweiniad yn bennaf at bob aelod o dimau arolygu ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig anenwadol ac unedau cyfeirio disgyblion.

 

      

 

     Cynhwysa’r ddogfen uchod amlinelliad o’r gofynion cyfreithiol mewn perthynas ag addoli ar y cyd; diffiniad o beth yw addoli ar y cyd a’r nifer o ffurfiau y gall eu cymryd; y gofynion a’r drefn o arolygu ac adrodd ar addoli ar y cyd ynghyd â rhai cwestiynau cyffredin sy’n codi menwn perthynas ag addoli ar y cyd.

 

      

 

     Derbyniwyd y ddogfen uchod gan y CYSAG fel dogfen diddorol a defnyddiol iawn, ac awgrymwyd bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael gwybod amdani. Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y gellir ei chylchredeg yn electroneg gyda’r bwletin wythnosol i bob ysgol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi Arweiniad Atodol Estyn ar addoli ar y cyd mewn ysgolion anenwadol a gofyn i Ymgynghorydd y Dyniaethau  drefnu i’r arweiniad gael ei gylchredeg i bob ysgol gynradd ac uwchradd yn y sir.

 

      

 

9

GOHEBIAETH

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) am yr ohebiaeth ganlynol a dderbyniwyd:

 

      

 

Ÿ

Llythyr oddiwrth RE Quest yn cynnig pecyn DVD am ddim i ysgolion. Gofynnwyd am gymeradwyaeth y CYSAG i gylchredeg y deunydd hwn ac fe gefnogwyd hynny gan aelodau’r CYSAG.

 

 

 

Ÿ

Llythyr oddwrth Mr Gavin Craigen, Cymdeithas CYSAGau Cymru a anfonwyd i bob corff CYSAG yn ymwneud â diffyg presenoldeb o du cynrychiolwyr rhai cyrff CYSAGau yng nghyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 14 Mawrth, a hefyd diffyg ymddiheuriadau am absenoldeb aelodau. Sylwodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) nad oedd y llythyr yn berthnasol i Fôn am fod dau o gynrychiolwyr  CYSAG Môn (y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd) wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod yng Nghaerfyrddin.

 

 

 

Ÿ

Llythyr dyddiedig 18 Mehefin, 2008 oddi wrth Pennaeth Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor ar y cyd â Chyfarwyddwr Cwrs TAR Uwchradd AG Coleg y Drindod yn rhoi gwybod i holl Ymgynghorwyr AG Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Cadeiryddion cyrff CYSAGau yng Nghymru, Clercod cyrff CYSAGau yng Nghymru ynghyd â chyrff eraill gyda diddordeb y bydd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn cael ei chefnogi gan Brifysgol Bangor a chan Goleg y Drindod Caerfyrddin o hyn allan yn dilyn penderfyniad gan Ymddiriedolaeth y Santes Fair i drosglwyddo ei nawdd o Brifysgol Bangor i Sant Deiniol ym Mhenarlâg o 1 Awst, 2008. Dywed y llythyr y bydd y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yn parhau i gynnig yr amrediad o wasanaethau mae wedi dod yn adnabyddus amdanynt; yn parhau i gyfranogi mewn panelau a phwyllgorau ledled Cymru ac yn parhau i gyhoeddi Newyddlen AG, sef y cylchgrawn sy’n cael ei gydnabod yn “brif ladmerydd AG yng Nghymru.”

 

 

 

Rhoddodd Is-Gadeirydd y CYSAG a chynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ychydig o gefndir y mater uchod i aelodau’r CYSAG,  a  phwysleisiwyd mai’r ystyriaeth bwysig yw y bydd y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yn parhau i wasanaethu’r gymuned ysgolion a’r gymuned Addysg Grefyddol yn yr un modd ag y mae wedi gwneud yn y blynyddoedd a fu.

 

 

 

     Penderfynwyd nodi’r gyfres ohebiaeth uchod.

 

11

CYFARFOD Y NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd bod cyfarfod nesaf y CYSAG wedi’i raglennu am 2 o’r gloch y prynhawn ar ddydd Llun, 6 Hydref, 2008.

 

      

 

12

DYDDIADAU CYFARFODYDD CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Nodwyd bod cyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru i’w cynnal ar 7 Tachwedd, 2008 yn Sir Fynwy ac ar 13 Mawrth, 2009 yn Pen-y-bont ar Ogwr.

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

             Cadeirydd